Pwy Ydyn Ni
Aelodau’n Partneriaeth ni yw Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cynrychiolwyr y trydydd sector, y sector annibynnol a gofalwyr
Ein Blaenoriaethau Ni
Gyda’n gilydd, rydym yn anelu at wella canlyniadau a llesiant ein dinasyddion drwy:
– wella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth;
– darparu gofal a chymorth cydlynol sy’n canolbwyntio ar y person;
– defnyddio adnoddau, sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol.