- Ein Blaenoriaethau Ni
- Gofalwyr
- Ymgysylltu Cymunedol a Chydgynhyrchu
- Rhaglen Dyfodol Anabledd
- Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd
- Gartref yn Gyntaf a Llif Cleifion
- Cydgomisiynu a Chyllidebau Cyfun
- Gweithio fesul Ardal
- Iechyd Meddwl
- Pobl Hŷn a Demensia
- Cynllunio a Hybu Gwasanaethau Atal
- Menter Gymdeithasol
- System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
Anableddau Dysgu
Mae prosiectau newydd ym maes oedolion sydd ag anableddau dysgu wedi canolbwyntio ar bedwar maes datblygu’n bennaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar helpu oedolion sydd ag anghenion cymhleth i aros yn nes at eu cartrefi ac yn eu cymunedau eu hunain. Dyma nhw: llety â chymorth, datblygu darpariaeth seibiant bwrpasol, gwell cyfleoedd dydd, a sefydlu fyrdd newydd a chynaliadwy i helpu unigolion nad oes arnyn nhw angen ymyriad statudol.
Llety â Chymorth i Oedolion Ifanc sydd ag Anableddau Dysgu ac Anghenion Cymhleth
Mae’r gwasanaeth Llety â Chymorth yn darparu dull aml-asiantaeth o asesu oedolion ifanc sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth. Mae’r gwasanaeth yn ymgymryd ag asesiadau cynhwysfawr i ddod o hyd i anghenion person ac yn eu helpu i allu byw mewn llety addas mor annibynnol ag y bo modd. O ganlyniad, mae oedolion ifanc wedi llwyddo i fyw’n agos at eu teuluoedd a’u rhwydweithiau presennol. O’r blaen, byddai’r grŵp hwn o unigolion yn defnyddio cymorth preswyl y tu allan i’w hardal leol, naill ai fel mesur dros dro nes bod llety addas â chymorth ar gael, neu ar sail fwy hirdymor.
Seibiant Pwrpasol i Oedolion sydd ag Anableddau Dysgu
Mae’r cynllun peilot Seibiant Pwrpasol wedi’i sefydlu er mwyn creu ymagwedd at seibiant sydd wedi’i seilio ar ranbarth cyfan ac i gynnig cyfle cyfartal ar draws Caerdydd a’r Fro i gael seibiant sydd wedi’i deilwra i ateb anghenion yr unigolyn. Gweledigaeth y cynllun peilot hwn yw cynnig dewislen o opsiynau seibiant, gan gynnwys seibiant dros nos mewn gwasanaeth seibiant preswyl, ystod o gynlluniau ynglŷn â lleoliadau i oedolion, taliadau uniongyrchol a’r cyfle i ddefnyddio amrediad o gyfleoedd dydd (gweler isod). Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau seibiant preswyl ar draws Caerdydd a’r Fro yn ei chael yn anodd ateb anghenion y rhai sydd ag anghenion cymhleth oherwydd diffyg darpariaeth gwbl hygyrch. Yn yr un modd, ceir nifer o bobl sy’n defnyddio seibiant preswyl a allai gyrchu’r seibiant hwnnw drwy eu Lleoliad Oedolion neu drwy Daliadau Uniongyrchol.
Gwell Cyfleoedd Dydd i Oedolion ag Anableddau Dysgu ac Anghenion Cymhleth
Darperir cyfleoedd dydd ar draws Caerdydd a’r Fro i oedolion sydd ag anableddau dysgu. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae darpariaeth ddydd Caerdydd a’r Fro wedi bod yn canolbwyntio ar fodloni canlyniadau ac anghenion pobl sydd ag anghenion cymhleth o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Oherwydd cynnydd yn y galw, ar adegau nid yw hyn wedi bod yn bosibl, a bu’n rhaid trefnu lleoliadau y tu allan i’r sir.
Mae cymorth i’r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth wedi’i sicrhau drwy gynnal mwy o staff gofal dydd yng Nghaerdydd er mwyn cynyddu capasiti’r gwasanaeth, a threfnu hyfforddiant er mwyn i aelodau staff adeiladu ar eu sgiliau. Mae’r cyfle i sicrhau adnoddau ychwanegol fel offer TG a deunyddiau crefft, ac i brynu sesiynau gan diwtoriaid er mwyn helpu gweithgareddau cyfoethogi wedi bod yn fodd i’r gwasanaethau dydd ateb anghenion yr unigolion hynny sydd â gwahanol raddau o angen, a hynny ar y safle ac yn y cymunedau. Mae offer arbenigol wedi’i sicrhau yn y ddau awdurdod, sydd wedi bod yn fodd i rai oedolion ag anghenion mwy cymhleth ddefnyddio’r gwasanaeth.
Prosiect Galluogi Anableddau Dysgu
Mae’r prosiect hwn yn parhau â’r gwaith a arferai gael ei ariannu gan Gronfa Gydweithredu Ranbarthol Llywodraeth Cymru. Mae’n gwneud gwaith adolygu yn y gwasanaethau cymdeithasol i helpu oedolion sydd ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth i sicrhau pecynnau gofal, sy’n gymesur â’u hanghenion ac yn agosach at eu cartrefi na’r ddarpariaeth flaenorol o bosibl. Gwasanaeth rhanbarthol yw hwn, sy’n cynnig ymagwedd gyson ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Ewch i Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i ddarganfod mwy am ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.