Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd
Mae’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff partneriaeth pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sefydlu tîm i arfer swyddogaethau cymorth i deuluoedd. Mae tîm a sefydlir o dan y rheoliad hwn i’w alw’n Dîm Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFST).
Mae’r gwasanaeth hwn o gymorth i gadw teuluoedd ynghyd drwy eu hannog i gymryd camau cadarnhaol i wella’u bywydau. Caiff awdurdod lleol gyfeirio teulu at IFST pan geir pryderon ynghylch lles plant, megis:
- Camddefnyddio sylweddau
- Trais neu gamdriniaeth ddomestig
- Hanes ymddygiad treisgar neu ddifrïol
- Materion iechyd meddwl
Mae’n bosibl bod risg y caiff plant teuluoedd sy’n profi anawsterau o’r fath eu rhoi mewn gofal neu eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Mae IFSTs yn gweithio gyda theuluoedd i’w cynorthwyo i wneud newidiadau cadarnhaol er mwyn lleihau unrhyw bryderon a galluogi plant i aros gartref yn ddiogel. Maen nhw hefyd yn darparu cymorth a chefnogaeth wedi’u targedu i greu cysylltiad rhwng gwasanaethau plant ac oedolion gan ganolbwyntio ar y teulu fel uned.
Mae’n ofynnol i’r awdurdodau lleol a’u partneriaid yn y byrddau iechyd weithio ar y cyd i sefydlu’r gwasanaeth a darparu cymorth/gwasanaethau i deuluoedd. Mae’r dull hwn yn sicrhau gwell atebolrwydd a rhannu’r cyfrifoldeb ym maes gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cliciwch yma.