Gweithio fesul Ardal
Mae atebion sydd wedi’u seilio ar ardal a lle yn cynnig model newydd ar gyfer cyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Y nod yn hyn o beth yw gwella’r canlyniadau i ddinasyddion a chreu gwell effeithlonrwydd drwy dargedu camau i ateb anghenion lleol. Yn fwy penodol, mae’n golygu:
- Bod pobl yn aros yn iach ac yn gallu atal afiechyd yn y gymuned;
- Bod pobl yn rheoli eu bywydau eu hunain ac aros yn annibynnol;
- Rhoi gofal sy’n ymateb i anghenon pobl ac sy’n ddiogel a di-fwlch rhwng gwahanol rannau o’r system;
- Gweithio ar draws system gyfan sy’n sicrhau canlyniadau gwell am bob punt sy’n cael ei gwario.
Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg mae yna dair Ardal: Gogledd a Gorllewin Caerdydd / De a Dwyrain Caerdydd / Bro Morgannwg.
Mae gan bob Ardal dri Chlwstwr Gofal Sylfaenol/Ymarfer Cyffredinol.
Mae’r awdurdodau lleol a’r partneriaid yn gweithio mewn Cymdogaethau, sydd o ran daearyddiaeth yr un fath â’r Clystyrau.
I gael rhagor o wybodaeth am bob cymdogaeth/clwstwr gofal sylfaenol, cliciwch ar y map isod neu yma.