Canol y Fro (y Barri)
Mae ardal y Barri yn canolbwyntio ar wardiau Dyfan, Gibbonsdown, y Llys, Cadog, Illtud, Buttrills, Baruc a Castleland.
Mae gan bron bob rhan o Fro Morgannwg ei chyngor cymuned ei hun, sef Cyngor Tref y Barri yn achos y Barri.
Mae gan y Barri amryw o gyfleusterau cymunedol a diwylliannol gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau’r Neuadd Goffa sy’n lleoliad bywiog a chyffrous at amryw o ddibenion celfyddydol gyda sinema ac Oriel Gelf Ganolog yn Neuadd Tref y Barri.
Ceir cysylltiadau rheilffyrdd da hefyd â Chaerdydd a’r rhanbarth ac mae gan y dref ac Ynys y Barri bedair gorsaf. Mae adfywio’r dref ac Ynys y Barri wedi gwella’n sylweddol ar gyfleoedd, tai a’r amgylchedd lleol gan helpu i godi niferoedd yr ymwelwyr â’r Ynys a’r niferoedd sy’n dod i’r nifer fawr o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal erbyn hyn.
Mae gan y Barri ysbyty cymunedol sy’n darparu amrediad o wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd gan gynnwys: Cleifion Allanol, Mân Anafiadau, Radioleg, Wardiau Adsefydlu, Wardiau Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn (MHSOP), Therapïau, Deintyddiaeth, meddygon teulu a gwasanaethau Tu Allan i Oriau.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro ymysg y colegau mwyaf yn y wlad ac mae ganddo ganolfan yn y Barri ers mwy na 50 mlynedd – gan helpu unigolion, cyflogwyr a’r gymuned ar draws y sir. Mae’r campws ar Heol Colcot yn cynnwys cyfleusterau addysgu mewn ystod aruthrol o gyrsiau, yn ogystal â chyfleusterau i’r gymuned.
Mae cyfleusterau ac amwynderau eraill yr ardal yn cynnwys:
- 7 meddygfa
- 1 swyddfa heddlu
- 1 orsaf dân
- 1 llyfrgell
- 12 o ganolfannau cymunedol
- 8 parc
- 21 o ysgolion
- 8 safle rhandiroedd
- 2 fanc bwyd