Home > Ein Blaenoriaethau Ni > Pobl Hŷn a Demensia
Pobl Hŷn a Demensia
Mae datblygu gwasanaethau integredig ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia, yn un o brif flaenoriaethau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg.
Ein gweledigaeth yw gwella iechyd a llesiant pobl hŷn, ni waeth pa mor gymhleth y mae eu hanghenion, fel y cânt eu cefnogi i gadw eu hannibyniaeth ac i fyw bywyd boddhaus. Fel y nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, byddwn yn cyflawni hyn trwy wneud y canlynol:
- Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o ddewis a rheolaeth;
- Gwella canlyniadau ac iechyd a llesiant;
- Cynnig cymorth a gofal wedi’i gydlynu ac sy’n canolbwyntio ar y person;
- Defnyddio adnoddau, sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol.
I ddysgu mwy am waith y Bartneriaeth i gefnogi pobl hŷn, cliciwch ar yr adrannau isod.