Home > Ein Blaenoriaethau Ni > Pobl Hŷn a Demensia > Comisiynu ar y Cyd Pobl Hŷn
- Ein Blaenoriaethau Ni
- Gofalwyr
- Ymgysylltu Cymunedol a Chydgynhyrchu
- Rhaglen Dyfodol Anabledd
- Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd
- Gartref yn Gyntaf a Llif Cleifion
- Cydgomisiynu a Chyllidebau Cyfun
- Gweithio fesul Ardal
- Iechyd Meddwl
- Pobl Hŷn a Demensia
- Cynllunio a Hybu Gwasanaethau Atal
- Menter Gymdeithasol
- System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
Comisiynu ar y Cyd Pobl Hŷn
Mae Partneriaeth Gofal Cymdeithasol a Iechyd Integredig Caerdydd a Bro Morgannwg wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant pobl hŷn na 65 oed. Yr unig ffordd o wneud hyn yw trwy gydweithio gyda’n partneriaid ehangach, darparwyr a gyda’r dinasyddion eu hunain.
I gefnogi’r gwaith o ddatblygu’n gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn rydym wedi gwneud gwaith i ddatblygu model gwasanaeth newydd a chomisiynu bwriadau dan yr is-bennawd “Fi, fy nghartref, fy nghymuned”. Mae hyn ar sail egwyddorion a gytunwyd ar gyfer gwaith ar y cyd sy’n canolbwyntio ar:
- ‘Beth sy’n bwysig i mi’ – gwrando ar bobl y mae angen gofal arnynt, gweithio gyda nhw a’u cefnogi i ddod o hyd i atebion er mwyn bodloni eu hanghenion;
- Cartref yn gyntaf – galluogi pobl i fyw yn eu cartrefi, neu mor agos at eu cartrefi â phosibl, mewn llety sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion a lle y gall pobl fyw yn dda, ffynnu ac aros yn annibynnol;
- Defnydd cynaliadwy a chall o adnoddau – hybu ataliaeth ac ymyrraeth gynnar, a datblygu canlyniadau o ansawdd ac atebion sy’n werth yr arian sy’n bodloni anghenion gofal a chymorth;
- Osgoi niwed, gwastraff ac amrywiaeth – sicrhau gofal o ansawdd uchel ym mhob gwasanaeth.
I ddysgu mwy am ein gwaith, cliciwch ar y dolenni isod.
Model Gwasanaeth
Datganiad Sefyllfa Farchnad Pobl Hŷn
MPS_FINAL_English
pdf 29MB