Housing
Mae’n ofynnol yn ôl Rhan 9, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol gytuno ar ddatganiad sefyllfa marchnad integredig a chomisiynu strategaeth ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn. Er mwyn bodloni’r gofyniad hwn, cyhoeddodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg ei ddatganiad sefyllfa marchnad ym mis Ionawr 2018.
Yn y Datganiad Sefyllfa Marchnad, ymrwymodd y Bartneriaeth i “Adolygu strategaethau tai lleol yng ngoleuni darpariaeth bresennol a datblygu strategaeth ar y cyd ar gyfer llety â gofal a chymorth”. Cytunwyd bod angen i hyn gynnwys gwerthusiad ynghylch lefel y llety â gofal a chymorth sydd ei hangen nawr ac yn y dyfodol.
Er mwyn cwblhau’r gwaith hwn, mae’r Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai wedi cael ei gomisiynu gan y Bartneriaeth i gynnal adolygiad. Mae’r adroddiad – Asesiad o Dai a Llety Pobl Hŷn 2018 – yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer y Bartneriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
Datblygiad pellach o dai gwarchod/ymddeol modern ‘parod am ofal’ heb ofal ar y safle ond sy’n galluogi pobl i heneiddio gartref
- Datblygiadau tai prif ffrwd i gynnwys unedau a gynlluniwyd yn dda sy’n apelio at bobl hŷn ac sy’n denu pobl o bob cenhedlaeth i fyw yn yr ardal
- Cynyddu darpariaeth dai â dewisiadau gofal gan gynnwys gofal ychwanegol a gofal ychwanegol ‘ysgafn’ a allai gynnwys datblygiadau newydd ar raddfa is ac ail-ddylunio rhai cynlluniau tai gwarchod i gynnwys ‘hyb gofal’
- Datblygu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor hollgynhwysol ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol a pherchenogion tai o ran addasiadau a dewisiadau tai
- Cynyddu graddfa’r broses o ddatblygu modelau sy’n seiliedig ar dai ‘llai dwys’ i gefnogi’r broses o ryddhau o’r ysbyty yn amserol a hyrwyddo ailalluogi
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru o ran targedau tai fforddiadwy a’r posibilrwydd am arweiniad o ran tai ar gyfer pobl hŷn
- Gweithio gyda darparwyr gofal i ystyried modelau gwasanaeth ar wahân i ofal preswyl, gan gynnwys darparu gofal nyrsio.
Defnyddir y gwaith hwn nawr i lywio gwaith Bwrdd Rhaglen Iechyd, Tai a Gofal y Bartneriaeth. Lawrlwythwch y Cylch Gorchwyl yma.