Menter Gymdeithasol
Mae menter gymdeithasol yn fusnes sydd ag amcanion cymdeithasol yn bennaf. Mae’r elw ar y cyfan yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes neu’r gymuned, yn hytrach na chynyddu elw’r cyfranddalwyr a’r perchnogion. Mae mentrau cymdeithasol hefyd yn cystadlu yn y farchnad ac mae angen iddyn nhw gael eu rhedeg yn dda er mwyn gwneud arian a chyrraedd eu nodau cymdeithasol. Maen nhw’n gallu amrywio o siopau pentref bach ym mherchnogaeth y gymuned i sefydliadau mawr sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus. Ceir mentrau cymdeithasol ar lawer o ffurfiau, gan gynnwys mentrau cydweithredol a ffyrmiau cymdeithasol.
Mae’r Cynghrair Cydweithredol Rhyngwladol yn nodi saith egwyddor cydweithredu a chanllawiau er mwyn i fentrau cydweithredol roi eu gwerthoedd ar waith. Dyma nhw:
- Aelodaeth wirfoddol ac agored;
- Rheolaeth ddemocrataidd i’r aelodau;
- Cyfranogiad economaidd gan yr aelodau;
- Hunanreolaeth ac annibyniaeth;
- Addysg, hyfforddiant a gwybodaeth;
- Cydweithredu ymysg mentrau cydweithredol;
- Consýrn dros y gymuned.
Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar fentrau cymdeithasol ar gael yma: