Pecyn Cymorth Sicrhau’r Gwerth Cymdeithasol Gorau Posibl
Fel ffordd o gynorthwyo partneriaid a sicrhau y datblygir y gwerth cymdeithasol gorau posibl, mae Grŵp Llywio Gwerth Cymdeithasol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi datblygu pecyn cymorth ar gyfer comisiynwyr, caffaelwyr a darparwyr.
Crëwyd y pecyn cymorth yn dilyn gweithdy mewn partneriaeth sydd hefyd wedi ystyried Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn cynllunio gwasanaeth.
Wedi’i anelu at unrhyw berson neu dîm sy’n ymwneud â chomisiynu, caffael neu gynnig gwasanaethau sy’n ceisio creu gwerth cymdeithasol, ei nod yw tynnu sylw at beth o’r gwaith gwych sy’n digwydd yn rhanbarth Caerdydd a’r Fro a’r thu hwnt, i helpu i greu dull cyson o ddeall a sicrhau’r gwerth cymdeithasol gorau posibl.
Mae pedair rhan i’r pecyn cymorth:
- Deall gwerth cymdeithasol
- Darparu gwerth cymdeithasol
- Dangos gwerth cymdeithasol
- Rhagor o adnoddau ar werth cymdeithasol
Mae hefyd yn cynnwys sawl astudiaeth achos ledled y rhanbarth o werth cymdeithasol ar waith.
Lawrlwythwch adnoddau ‘Sicrhau’r Gwerth Cymdeithasol Gorau Posibl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg: Pecyn Cymorth ar gyfer Comisiynwyr, Caffaelwyr a Darparwyr’ yma.