Cynhadledd Cydweithredu’r GIG MediWales Connects – Caerdydd, 29 Mehefin 2022
Digwyddiad wyneb yn wyneb, 29ain Mehefin 2022, Mercure Holland House, Caerdydd
Cynhadledd cydweithredu GIG Cymru gyfan yw MediWales Connects sy’n dwyn ynghyd y cymunedau iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd cydweithwyr y GIG o bob rhan o Gymru, cwmnïau lleol a’r sector diwydiant ehangach yn dod ynghyd i rannu arloesedd clinigol yn ymarferol er mwyn gwella canlyniadau i gleifion. Mae’r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn, a gymeradwywyd ar gyfer DPP, yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio a chaiff ei gynnal yng Nghaerdydd ar 29ain Mehefin 2022.
Cliciwch y ddolen i archebu eich lle: https://mediwalesconnects.com
|
|
Ymhlith y prif siaradwyr mae:
Judith Padget CBE – Prif Weithredwr GIG Cymru.
Mark Hackett – Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Steve Moore – Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Kieran Walshe – Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Ymhlith y Sesiynau Seminar mae:
Diagnosteg canser a phrofiad cleifion
Rheolaeth ddigidol a diet diabetes
Monitro cardio fasgwlaidd a rhybuddion cynnar
Trawsnewid Digidol
Cyflyrau cronig yn y cartref
Iechyd Menywod a Rheoli Menopos
Cynaliadwyedd yn y GIG
Ymhlith y gweithdai mae:
Dyfodol Digidol
Arddangosfa Arloesi
Cyfarfod â’r Arloeswyr
Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth
Lles
Arloesi Clinigol
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Hwb Gwyddorau Bywyd
Ffrwd Diwydiant Gyfochrog
Y Newyddion Diweddaraf Rheoleiddiol, Mynediad Clinigol, Caffael, Cyllid ac Ariannu ar gyfer Twf ac Arloesi a Chymorth Busnes.
Gall cydweithwyr yn y GIG gofrestru am ddim
Wedi’i gymeradwyo ar gyfer DPP
Dyma resymau allweddol dros gymryd rhan yn MediWales Connects 2022:
- Arloesi ar gyfer Cymru iachach
Mae’r thema eleni wedi’i seilio ar gyflawni mabwysiadu ac adeiladu partneriaethau gofal iechyd cymunedol
- 400 o Fynychwyr
Cymunedau gofal a chlinigol y GIG, diwydiant a gweithwyr ymchwil proffesiynol
- Prif gyflwyniadau
Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru
- Gweithdai Rhyngweithiol
Digon o gyfleoedd i gymryd rhan yn y digwyddiad dan arweiniad y GIG
- Parthau Arddangos
Dros 40 o arddangoswyr i ryngweithio a rhwydweithio â nhw
- Technolegau Newydd
Technoleg arloesol gan amrywiaeth o gwmnïau
- Iechyd Digidol
Cipolwg ar y technolegau iechyd digidol diweddaraf
- Arloesi’r GIG
Arddangos arloesedd a’u mabwysiadu mewn lleoliad clinigol
- Cyfleoedd Creu Partneriaeth
Dod o hyd i gefnogaeth a hyrwyddiad ar gyfer dyfodol gofal iechyd