
Siarter Ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl
22/06/2022
Nod y Siarter Gofalwyr Di-dâl yw helpu pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i ddeall p’un a ydyn nhw, neu rywun y maent yn ei adnabod, yn ofalwr di-dâl. Mae’r Siarter hefyd yn addo ymrwymiad partneriaid ar draws y rhanbarth gan gynnwys; y GIG, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector ac yn amlinellu sut y maent yn bwriadu datblygu eu gwasanaeth i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl.